Croeso

Croeso gan y Pennaeth

Ar ran y llywodraethwyr, y staff, y disgyblion a minnau, mae’n rhoi pleser mawr i mi, fel Pennaeth, eich croesawu i wefan newydd Ysgol Craig y Deryn.

Mae gwefan yr ysgol yn arf pwysig iawn wrth ddathlu’r gweithgareddau anhygoel sy’n digwydd yn Ysgol Craig y Deryn. Mae hefyd yn arf hanfodol wrth gyfathrebu gyda rhieni, gofalwyr ac ymwelwyr a darparu gwybodaeth am amrywiol bolisïau, arferion a gweithdrefnau ein hysgol. Dyluniwyd ein gwefan newydd i roi blas o’n hysgol i chi yn ogystal â darparu gwybodaeth wedi ei diweddaru’n rheolaidd i rieni, ond i ganfod mwy, cysylltwch â’r ysgol os gwelwch yn dda.

Rydym i gyd yn hynod falch o’n hysgol ac yn ymroddedig i ddarparu’r addysg orau bosibl i’n plant i gyd. Gwyddom fod Ysgol Craig y Deryn yn ysgol lle mae plant yn teimlo’n ddiogel mewn amgylchedd hapus ac ysgogol lle anogir pob plentyn i fwynhau dysgu ac i ddatblygu meddwl bywiog ac ymchwilgar. Rydym hefyd eisiau i blant ddatblygu’r gallu i holi a thrafod yn rhesymegol, ac ymroi i dasgau a sgiliau wrth iddynt geisio gwireddu eu llawn botensial ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.

Wrth i ymwelwyr gerdded o amgylch yr ysgol, maent yn sylwi ar blant hapus sy’n ymroi i ddysgu mewn amgylchedd tawel, hwyliog. Rydym yn hynod ffodus i gael adeilad newydd a modern gwych gyda digonedd o le y tu allan. Ymfalchïwn fod gennym ysgol hapus lle mae llais y plentyn yn cael ei glywed yn eglur mewn awyrgylch sy’n annog parch at bawb a pharch at yr amgylchedd.

Gwneir pob penderfyniad yn yr ysgol drwy ystyried lles y plant yn gyntaf. Drwy wneud hyn, bydd y plant yn ganolog i bopeth a wnawn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi a’ch plentyn fel y gall Ysgol Craig y Deryn barhau i fod y lle poblogaidd ac arbennig y mae heddiw. Croesewir rhieni fel partneriaid yn addysg eu plant gan ein bod yn credu bod ein plant yn dysgu orau pan fo aelodau’r staff a’r rhieni yn gweithio mewn partneriaeth. Rydym felly yn gwerthfawrogi’r rhan yr ydych chi yn ei chwarae yn addysg eich plentyn.

Teimlaf yn freintiedig i arwain tîm o staff proffesiynol, dawnus ac ymroddedig sy’n darparu gwersi a gweithgareddau wedi eu cynllunio a’u trefnu’n dda. Darperir hefyd amrediad eang o weithgareddau i gyfoethogi’r cwricwlwm er mwyn gwella dysg y plant. Mae gennym grŵp o lywodraethwyr cefnogol a gweithgar sy’n fedrus iawn mewn gwahanol agweddau. Gweithia’r llywodraethwyr a’r staff gyda’i gilydd i ddarparu’r cyfleoedd dysgu gorau i’n plant. Anogwn ein plant i fod yn gyfrifol am eu dysg, i gynyddu yn eu hyder a magu annibyniaeth.
Unwaith eto, croeso!

(Os oes gennych unrhyw adborth, neu awgrymiadau am wybodaeth arall yr hoffech ei gweld ar y safle, cofiwch gysylltu â ni.)