Cyfleusterau

Cyfleusterau’r Ysgol

Gellir dadlau mai Ysgol Craig y Deryn yw un o’r amgylcheddau dysgu mwyaf modern ar gyfer addysg gynradd yng Ngwynedd! Mae’n cynnig y profiad a’r lleoliad perffaith i blant ddysgu am agweddau sylfaenol ysgol cyn iddynt symud ymlaen yn eu haddysg.

Y Profiad Perffaith

Mae’r ysgol yn cynnig addysg gynradd ddi-ail, gyda offer TG Apple Mac a’i hystafelloedd dosbarth a ddyluniwyd yn fedrus. Yn ogystal â chynnig amgylchedd ddysgu eang, mae’r ystafelloedd dosbarth modern pwrpasol hyn yn cynnig technoleg hefyd, fel sawl teledu mawr sgrîn gyffwrdd, i alluogi athrawon eich plentyn ddarparu’r addysg y mae eich mab neu eich merch yn ei haeddu!

Mae’r ysgol hefyd yn cynnig ystafelloedd arbenigol ar gyfer celf a choginio, ynghyd â dewis helaeth o lyfrau ac adnoddau yn llyfrgell yr ysgol.

Y Tu Allan i’r Ystafell Ddosbarth

Fel y gwyddom i gyd, mae mwy i’r ysgol nag amser o ansawdd da a dreulir yn y dosbarth. Mae gan Ysgol Craig y Deryn nifer o gyfleusterau gwych y tu allan i’r ystafell ddosbarth, y gall eich mab neu eich merch eu darganfod. Mae digonedd o le yn yr ysgol i redeg o gwmpas a chwarae. Mae’r maes chwarae mawr pob-tywydd yn lle poblogaidd, felly hefyd y pwll natur a’r pontŵn – y ddau wedi eu lleoli yn nyffryn hardd Dysynni ac yn edrych dros yr enwog Graig y Deryn.

Ystafell Sensori

Yr Holl Gyfleusterau

Dyma restr gynhwysfawr o’r cyfleusterau y mae’r ysgol yn eu cynnig:

  • Ystafelloedd Dosbarth Mawr Modern
  • Llyfrgell Bwrpasol
  • Ystafell Gelf
  • Ystafell Goginio
  • Ystafell Sensori
  • Maes Pob-tywydd Amlbwrpas
  • Ystafell Hylendid
  • Ystafell Feddygol
  • System Fonitro Teledu Cylch Cyfyng
  • System Sain Integredig
  • Dosbarth tu allan