Polisi Preifatrwydd Gwefan

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn rheoli’r modd y mae Ysgol Craig y Deryn yn casglu, defnyddio, cynnal a datgelu gwybodaeth a gasglwyd gan ddefnyddwyr (yn unigol, ‘Defnyddiwr’) gwefan (‘Safle’) http://YsgolCraigYDeryn.org.  Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r Safle a’r holl gynnyrch a’r gwasanaethau a gynigir gan Ysgol Craig y Deryn.

Gwybodaeth adnabod bersonol

Gall y byddwn yn casglu gwybodaeth adnabod bersonol gan Ddefnyddwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd yn gysylltiedig â’r gweithgareddau, gwasanaethau, nodweddion neu adnoddau a roddwn ar ein Safle.  Gall Defnyddwyr ymweld â’n Safle yn ddienw.  Ni fyddwn yn casglu gwybodaeth adnabod bersonol gan Ddefnyddwyr ond os ydynt yn cynnig gwybodaeth o’r fath yn wirfoddol i ni.  Gall Defnyddwyr bob amser wrthod darparu gwybodaeth adnabod bersonol, ond gall hyn eu rhwystro rhag ymwneud â rhai o’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r Safle.

Gwybodaeth adnabod nad yw’n bersonol

Gall y byddwn yn casglu gwybodaeth adnabod nad yw’n bersonol am Ddefnyddwyr pryd bynnag y byddant yn rhyngweithio â’n Safle.  Gall gwybodaeth adnabod nad yw’n bersonol gynnwys enw’r porwr, y math o gyfrifiadur a gwybodaeth dechnegol am ddull Defnyddwyr o gysylltu â’n Safle, megis y system weithredu a’r darparwyr gwasanaeth Rhyngrwyd a ddefnyddir, a gwybodaeth arall o’r fath.

Cwcis pori’r we

Gall y bydd ein Safle yn defnyddio ‘cwcis’ i gyfoethogi profiad Defnyddwyr.  Gosoda porwr gwe’r Defnyddwyr y cwcis ar eu gyriant caled at bwrpas cadw cofnodion ac weithiau i olrhain gwybodaeth amdanynt.  Gall Defnyddwyr ddewis gosod eu porwr gwe i wrthod cwcis, neu i’w hysbysu pan fo cwcis yn cael eu hanfon.  Os gwnânt hynny, efallai na fydd rhai rhannau o’r Safle’n gweithio’n iawn.

Sut rydym yn defnyddio gwybodaeth a gesglir

Gall y bydd Ysgol Craig y Deryn yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol Defnyddwyr at y dibenion a ganlyn:

– Gwella gwasanaeth i’r cwsmer
Gall yr wybodaeth a roddwch ein cynorthwyo i ymateb yn fwy effeithlon i’ch ceisiadau am wasanaeth cwsmer a’ch anghenion o ran cefnogaeth.
– Gwella’n Safle
Gall y byddwn yn defnyddio’r adborth yr ydych yn ei ddarparu i wella ein cynnyrch a’n gwasanaethau.
– Anfon e-byst achlysurol
Gall y byddwn yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost i ymateb i’ch ymholiadau, cwestiynau, a/neu geisiadau eraill.

Sut rydym yn gwarchod eich gwybodaeth

Mabwysiadwn arferion casglu, storio a phrosesu data a mesurau diogelwch addas i amddiffyn rhag mynediad heb awdurdod, newid, datgelu neu ddinistrio eich gwybodaeth bersonol, enw defnyddiwr, cyfrinair, gwybodaeth ynglŷn â thrafodiadau a data a gedwir ar ein Safle.

Rhannu eich gwybodaeth bersonol

Nid ydym yn gwerthu, masnachu, na hurio gwybodaeth adnabod bersonol Defnyddwyr i eraill.  Gall y byddwn yn rhannu gwybodaeth ddemograffaidd agregedig gyffredinol nad ydyw wedi ei chysylltu ag unrhyw wybodaeth adnabod bersonol ynglŷn ag ymwelwyr a Defnyddwyr, gyda’n partneriaid busnes, cysylltiedigion a hysbysebwyr yr ymddiriedir ynddynt i’r pwrpasau a amlinellir uchod.  Gall y byddwn yn defnyddio darparwyr gwasanaeth trydydd parti i’n cynorthwyo i weithredu ein busnes a’r Safle neu weinyddu gweithgareddau ar ein rhan, megis anfon cylchlythyrau neu arolygon.  Gall y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r trydydd partïon hyn i’r pwrpasau cyfyngedig hynny cyn belled â’ch bod wedi rhoi eich caniatâd i ni.

Gwefannau trydydd parti

Gall Defnyddwyr ganfod hysbysebion neu gynnwys arall ar ein Safle sy’n cysylltu i safleoedd a gwasanaethau ein partneriaid, cyflenwyr, hysbysebwyr, noddwyr, trwyddedwyr a thrydydd partïon eraill.  Nid ydym yn rheoli cynnwys na dolenni sy’n ymddangos ar y safleoedd hyn ac nid ydym yn gyfrifol am y dulliau gweithredu a ddefnyddir gan wefannau sy’n gysylltiedig i neu o’n Safle.  Yn ychwanegol, gall y safleoedd neu wasanaethau hyn, gan gynnwys eu cynnwys a’u dolenni, fod yn newid yn gyson.  Efallai bod gan y safleoedd a’r gwasanaethau hyn eu polisïau preifatrwydd a’u polisïau gwasanaeth cwsmer eu hunain.  Mae pori a rhyngweithio ar unrhyw wefan arall, gan gynnwys gwefannau sydd â dolen i’n Safle ni, yn ddarostyngedig i delerau a pholisïau’r wefan honno.

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Ceidw Ysgol Craig y Deryn yr hawl i ddiweddaru’r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg.  Pan wnawn hynny, byddwn yn anfon e-bost atoch.  Anogwn Ddefnyddwyr i wirio’r dudalen hon yn aml am unrhyw newidiadau er mwyn parhau’n ymwybodol o sut rydym yn cynorthwyo i warchod yr wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu.  Rydych yn cydnabod ac yn cytuno mai eich cyfrifoldeb chi yw adolygu’r polisi preifatrwydd hwn yn achlysurol a dod yn ymwybodol o addasiadau.

Eich derbyniad o’r telerau hyn

Drwy ddefnyddio’r Safle hwn, rydych yn dynodi eich bod yn derbyn y polisi hwn.  Os nad ydych yn cytuno i’r polisi hwn, os gwelwch yn dda peidiwch â defnyddio’n Safle.  Ystyrir y bydd parhau i ddefnyddio’r Safle yn dilyn postio newidiadau i’r polisi hwn yn golygu eich bod yn derbyn y newidiadau hynny.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Polisi Preifatrwydd hwn, dulliau gweithredu y Safle hwn, neu am eich ymwneud â’r Safle, cysylltwch â ni yn:
Ysgol Craig y Deryn

http://YsgolCraigYDeryn.org

Ysgol Craig y Deryn
Llanegryn
Gwynedd
LL36 9SG

01654 710 463
info@ysgolCraigYDeryn.org

Diweddarwyd y ddogfen hon ddiwethaf ar 24 Ionawr 2015.

Crëwyd y Polisi Preifatrwydd gan http://www.generateprivacypolicy.com